English Text

Pan oedd hela’r twrch yn gyffredin yng Nghymru, adroddwyd stori am yr arwr mawr o Gymro,  Arthur a fu’n erlid baedd hud, gwyllt, a elwid Y Twrch Trwyth, ar draws De Cymru, gyda’i fyddin enfawr o wroniaid.   
Daethai'r Twrch Trwyth o iwerddon gyda chwe mochyn, i reibio tiroedd Arthur er mwyn talu’r pwyth am iddo achosi marwolaeth un o’i foch. Glaniodd y Twrch ger Penmaendewi yn sir Benfro; glaniodd Arthur ger Aberdaugleddau a dechreuodd yr ymlid. Digwyddodd hyn rhwng sir Benfro ac aber afon Hafren, gyda llawer brwydr ar y ffordd; lladdwyd nifer o ddynion Arthur mewn modd creulon gan Y Twrch Trwyth a’i ddilynwyr. Ar ddiwedd y dydd, lladdwyd pob mochyn ar wahân i’r Twrch; cafodd hwnnw ei ddal, yn aber afon Hafren i ddechrau ac eilwaith yng Nghernyw.
Mae Hela’r Twrch Trwyth yn rhan o stori Culhwch ac Olwen; dyma’r cofnod ysgrifenedig cyntaf am Arthur y gwyddom amdano ac fe’i ceir yn y Mabinogi, casgliad o fythau a chwedlau Cymreig o’r canol oesoedd.
Daw duwiau rhyfedd, lledrithiol, ac arwyr, cewri ac anifeiliaid chwedlonol yn fyw yn y stori hon am gyfrwystra, dewiniaeth a swyngyfaredd; rhaid iddynt oll wynebu dewrder Arthur a’i luoedd. Y creadur cryfaf a'r mwyaf nerthol yw’r Twrch Trwyth; bu hwn yn dywysog pendefigaidd ar un adeg ond bydd yn treulio gweddill ei fywyd wedi ei garcharu yng nghorff mochyn. Yn elyn cyfrwys a pheryglus, mae ganddo’r grym i arwain y diniwed i ymyl dibyn yr is-fyd; mae ei galon yn llawn dicter tuag at Arthur sydd wedi ei ddilyn trwy lawer gwlad a lladd ei epil. Rhaid i Arthur ddefnyddio pob math o hud, sgil a nerth – hyd yn oed galluoedd Gwyn ap Nudd ei hun, Brenin yr is-fyd. Mae’n hel ynghyd y fyddin fwyaf, gan gynnwys llawer o ffrindiau adnabyddus megis Bedwyr a Cai.
Gan fod stori fel hon yn haeddu cael ei hadrodd, mae llwybr sydd wedi seilio ar y thema yn cael ei chreu ar draws de Cymru i nodi’r erlid a rhai o’r mannau yn y stori lle daeth y milwyr a’r creaduriaid wyneb yn wyneb â’r gilydd.